Close

Young Welsh chefs and Gareth Bale’s Wales team share a World Cup dream

Gareth Bale and the Wales squad will not be the only Welsh team fulfilling a dream by competing in a World Cup.

Whilst the Wales football team opened with a draw against the USA at the FIFA World Cup Qatar 2022 on Monday night, a team of talented, young Welsh chefs is in Luxembourg preparing to cook up a storm at the Culinary World Cup which begins this weekend.

The Junior Culinary Team Wales, comprising young chefs from across the country, will be competing against 15 other teams from around the world at the high profile culinary event.

The competition comprises two different elements: a Restaurant of Nations hot kitchen when teams must prepare a three-course menu 70 people and a ‘Table of Fire’ which will see teams prepare four different kinds of cold and hot finger food, a cold, festive fish or seafood platter, hot main courses and dessert for 12 people.

Wales presents its ‘Table of Fire’ on Sunday, November 27 before heading into the hot kitchen the following Tuesday.

Junior Culinary Team Wales is managed by Michael Kirkham-Evans, a lecturer at the Grŵp Llandrillo Menai campus in Rhos-on-Sea campus and coached by Danny Burke, co-owner of Olive Tree Catering, Runcorn and former Senior Culinary Team Wales captain.

The team is captained by Calum Smith, pastry chef at Shrewsbury School, who is joined by Harry Paynter-Roberts, sous chef at Carden Park Hotel and Spa, near Chester, Sion Hughes, head chef the Spa at Carden Park Hotel, Stephanie Belcher, chef de partie at Coast, Saundersfoot, Harry Osborne, head chef at the Quay Hotel and Spa, Deganwy and Jay Rees, who is studying for a degree at Grŵp Llandrillo Menai Both Sion and Harry Osborne are former Junior Chef of Wales winners.

Squad members, who will be supporting the team in Luxembourg, are Amira Milner from Signatures Restaurant, Conwy, Heather Spencer, commis chef at Links Hotel, Llandudno and Pippa Taylor, who is completing a Culinary Arts Degree at Grŵp Llandrillo Menai campus in Rhos-on-Sea.

Calum said and the Junior Culinary Team Wales are looking forward to competing against the world’s best chefs.

“I am delighted to be captaining Wales in only my second major international competition,” he said. “It means a-lot to me and to my family.

“Since competing for Wales at the Culinary Olympics in Stuttgart in 2020, it has been an exciting 18 months’ practicing. It’s a young team, with a lot of different experience across the country, and we are hoping that we can deliver in both the Restaurant of Nations and the Table of Fire.

“The relationship the team has built with our coach Danny Burke and manager Mike Kirkham-Evans has been great. Their work behind the scenes has been phenomenal and we wouldn’t be where we are without them.”

Calum also praised president Arwyn Watkins, OBE, and others at the Culinary Association of Wales for their guidance and advice.

Mr Kirkham-Evans says the squad is a good blend of skills, knowledge and youth. “Their development over the last 12 months has been fantastic at every practice and they are raising the bar in terms of their work ethic and dishes produced,” he said.

“Our mission is to keep developing young Welsh chefs who will hopefully progress into the Senior Culinary Team Wales in the future.”

Graham Tinsley, MBE, the Culinary Association of Wales’ culinary director, said: “The junior team has great potential because the chefs are very dedicated, have practised hard and have created some great dishes.

“They have gelled together really well under the leadership of Mike, who is a good organiser and Danny, who is a very good chef with a lot of competition experience.”

Cogyddion ifanc Cymru a thîm Gareth Bale yn breuddwydio am ennill Cwpan y Byd

Nid Gareth Bale a charfan bêl-droed Cymru fydd yr unig dîm o Gymru fydd yn gwireddu breuddwyd trwy gystadlu yng Nghwpan y Byd.

Mae tîm pêl-droed Cymru eisoes wedi cael gêm gyfartal yn erbyn UDA yng Nghwpan y Byd FIFA Qatar 2022 nos Lun, a nawr mae tîm o gogyddion ifanc dawnus o Gymru yn Lwcsembwrg yn paratoi i gystadlu yng Nghwpan y Byd Coginio sy’n dechrau’r penwythnos yma.

Bydd Tîm Coginio Ieuenctid Cymru, sy’n cynnwys cogyddion ifanc o Gymru benbaladr, yn cystadlu yn erbyn 15 tîm arall o bob rhan o’r byd yn yr ornest goginio fawreddog.

Mae dwy elfen wahanol i’r gystadleuaeth: cegin boeth Bwyty’r Cenhedloedd lle mae’n rhaid i dimau baratoi pryd tri chwrs i 70 o bobl a ‘Bwrdd Tân’ lle bydd y timau’n paratoi pedwar math gwahanol o fwyd bys a bawd oer a phoeth; platiaid oer, Nadoligaidd, o bysgod neu fwyd môr; prif gyrsiau poeth a phwdin i 12 o bobl.

Bydd Cymru yn cyflwyno ei ‘Bwrdd Tân’ ddydd Sul, Tachwedd 27 cyn mynd i mewn i’r gegin boeth y dydd Mawrth wedyn.

Rheolwr Tîm Coginio Ieuenctid Cymru yw Michael Kirkham-Evans, darlithydd ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a’r hyfforddwr yw Danny Burke, cydberchennog Olive Tree Catering, Runcorn a chyn gapten Tîm Coginio Hŷn Cymru.

Capten y tîm yw Calum Smith sy’n chef cynnyrch crwst mewn ysgol breifat yn Amwythig, a’r aelodau eraill yw Harry Paynter-Roberts, sous chef yn y Carden Park Hotel and Spa, ger Caer, Sion Hughes, pen-cogydd yn The Spa at Carden Park Hotel, Stephanie Belcher, chef de partie yn Coast, Saundersfoot, Harry Osborne, pen-cogydd y Quay Hotel and Spa, Deganwy a Jay Rees, sy’n astudio am radd gyda Grŵp Llandrillo Menai. Mae Sion a Harry Osborne wedi ennill cystadleuaeth Cogydd Ifanc Cymru cyn hyn.

Aelodau’r garfan a fydd yn cefnogi’r tîm yn Lwcsembwrg yw Amira Milner o Signatures Restaurant, Conwy, Heather Spencer, commis chef yn y Links Hotel, Llandudno a Pippa Taylor, sy’n gwneud gradd yn y Celfyddydau Coginio ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos.

Dywedodd Calum ei fod ef a Thîm Coginio Ieuenctid Cymru yn edrych ymlaen at gystadlu yn erbyn y cogyddion gorau yn y byd.

“Rwy’n falch iawn fy mod i’r cael bod yn gapten tîm Cymru a hynny yn fy ail gystadleuaeth fawr ryngwladol,” meddai. “Mae’n golygu llawer i mi a fy nheulu.

“Ers i mi gystadlu dros Gymru yn y Gemau Olympaidd Coginio yn Stuttgart yn 2020, rwy wedi cael 18 mis cyffrous yn ymarfer. Mae’n dîm ifanc, gydag amrywiaeth o brofiad ar draws y wlad, a’n gobaith yw y cawn ganlyniad da ym Mwyty’r Cenhedloedd a’r Bwrdd Tân.

“Mae’r tîm wedi meithrin perthynas ardderchog gyda’n hyfforddwr Danny Burke a’n rheolwr Mike Kirkham-Evans. Mae eu gwaith nhw y tu ôl i’r llenni wedi bod yn rhyfeddol a fydden ni ddim lle rydyn ni hebddyn nhw.”

Roedd gan Calum ganmoliaeth i’r llywydd, Arwyn Watkins, OBE, ac eraill yng Nghymdeithas Goginio Cymru am eu harweiniad a’u cyngor.

Yn ôl Mr Kirkham-Evans, mae’r garfan yn cynnwys cyfuniad da o sgiliau, gwybodaeth ac ieuenctid. “Mae eu datblygiad dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn wych ym mhob ymarfer ac maen nhw’n codi’r safon o hyd o ran eu hymdrech a’r prydau y maen nhw’n eu cynhyrchu,” meddai.

“Ein cenhadaeth yw dal i ddatblygu cogyddion ifanc yng Nghymru a fydd, gobeithio, yn symud ymlaen i Dîm Coginio Hŷn Cymru yn y dyfodol.”

Dywedodd Graham Tinsley, MBE, cyfarwyddwr coginio Cymdeithas Goginio Cymru: “Mae gan y tîm ieuenctid botensial mawr oherwydd mae’r cogyddion yn ymroddedig iawn, maent wedi ymarfer yn galed ac wedi creu prydau gwych.

“Maen nhw’n cydweithio’n dda iawn o dan arweiniad Mike, sy’n drefnydd da, a Danny, sy’n gogydd ardderchog gyda llawer o brofiad o gystadlu.”