Close

Chefs chosen to represent Wales at Global Chefs Challenge European heats

Chefs have been chosen to represent Wales at the Global Pastry Chefs Challenge and Global Young Chefs Challenge European heats next February.

Will Richards, a hospitality training officer with Cambrian Training Company, Welshpool and member of the Senior Culinary Team Wales, will compete in the pastry competition. He will be supported by Stephanie Belcher, chef de partie at Coast, Saundersfoot and a member of the Junior Culinary Team Wales.

Carrying Wales’ hopes in the Global Young Chefs Challenge will be Calum Smith, 21, pastry chef at Shrewsbury School and captain of Junior Culinary Team Wales. He led the team to silver and bronze medals at the recent Culinary World Cup in Luxembourg.

The chefs have been selected for the competitions by the Culinary Association of Wales (CAW). They will be supported by the CAW’s culinary director Graham Tinsley, MBE, the regional heats of the competitions, organised by Worldchefs, in Rimini, Italy.

Winners of the regional heats will progress to the finals at the Worldchefs Congress & Expo 2024 in Singapore.

Will, who lives in Llanharry, said: “Representing your country on the international stage is the highest point you can reach. Having competed with the Welsh team, this competition gives me a platform to showcase my own ideas.

“Steph is the second chef in the team, as she can do everything that I can do. I think she is a rising star and I can’t wait for the competition. As a team, we aim to push the bar and want to come back with gold and qualify for the final.”

They will be baking a showpiece, layered chocolate gateau and six plated desserts using seasonal apples.

Stephanie,21, who lives in Crickhowell, said: “I am absolutely thrilled and quite humbled to be given another massive opportunity to represent Wales in support of Will.

“It’s Will’s competition but I will not be limited to what skills I can use in the kitchen. There will be elements of the showpiece and dessert that I will be making. It’s another great learning opportunity coming so quickly after the Culinary World Cup.”

Calum said: “I am delighted to be given the opportunity to this time compete for Wales on my own. It means a lot to me and my family and hopefully I can get through to the final in Singapore in 2024 and bring it home for Wales.

“I am probably the best prepared that I could be because I am fresh from the Culinary World Cup which was my second major competition with Wales. I learnt such a lot from our team coach and manager, the judges and from watching other international chefs.

“I want to help establish Wales as one of the world’s top countries in culinary competitions as I strive to be the best that I can be.

“I can’t wait to fly the flag again for Wales and hopefully continue the success and momentum after the Culinary World Cup. Our goal is to win a gold medal at the Culinary Olympics in 2024.”

 

Dewis cogyddion i gynrychioli Cymru yn rowndiau Ewropeaidd Her Fyd-eang y Cogyddion

 

Dewiswyd cogyddion i gynrychioli Cymru yn rowndiau Ewropeaidd Her Fyd-eang y Cogyddion Crwst a Her Fyd-eang y Cogyddion Ifanc fis Chwefror nesaf.

Will Richards, swyddog hyfforddi lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, y Trallwng, ac aelod o Dîm Coginio Hŷn Cymru, fydd yn cystadlu yn yr ornest i gogyddion crwst. Cefnogir ef gan Stephanie Belcher, chef de partie yn Coast, Saundersfoot, ac aelod o Dîm Coginio Ieuenctid Cymru.

Yn Her Fyd-eang y Cogyddion Ifanc, bydd gobeithion Cymru ar ysgwyddau Calum Smith, 21 oed, cogydd crwst yn Ysgol Amwythig a chapten Tîm Coginio Ieuenctid Cymru. Llwyddodd ef i arwain y tîm i ennill medalau arian ac efydd yng Nghwpan y Byd Coginio yn Lwcsembwrg yn ddiweddar.

Dewiswyd y cogyddion i gystadlu gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW). Cânt eu cefnogi gan gyfarwyddwr coginio'r Gymdeithas, Graham Tinsley, MBE, yn rowndiau rhanbarthol y cystadlaethau, a drefnir gan Worldchefs, yn Rimini, yr Eidal.

Bydd enillwyr y rowndiau rhanbarthol yn mynd ymlaen i'r rowndiau terfynol yng Nghyngres ac Expo Worldchefs 2024 yn Singapore.

Dywedodd Will, sy’n byw yn Llanhari: “Mae cynrychioli'ch gwlad ar y llwyfan rhyngwladol yn uchafbwynt. Ar ôl cystadlu gyda thîm Cymru, mae’r gystadleuaeth hon yn rhoi llwyfan i mi arddangos fy syniadau fy hun.

“Steph yw’r ail gogydd yn y tîm, gan ei bod hi'n gallu gwneud popeth y gallaf i ei wneud. Rwy39 meddwl ei bod hi'n datblygu'n seren ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y gystadleuaeth. Fel tîm, rydyn ni’n anelu'n uchel ac yn awyddus i ddod adre â medal aur a mynd trwodd i'r rownd derfynol.”

Byddant yn coginio darn arddangos, sef gateau siocled haenog, a chwe phwdin ar blatiau gan ddefnyddio afalau tymhorol.

Meddai Stephanie, 21, sy'n byw yng Nghrucywel: "Rwy wrth fy modd ac yn ddiolchgar iawn o gael cyfle mawr arall i gynrychioli Cymru a chefnogi Will.

"Cystadleuaeth Will fydd hon ond byddaf i'n cael cyfle i ddefnyddio fy sgiliau hefyd. Byddaf i'n gwneud elfennau o'r darn arddangos a'r pwdin. Mae'n gyfle ardderchog arall i ddysgu a hynny mor fuan ar ôl Cwpan y Byd Coginio.”

Dywedodd Calum: “Rwy’n falch iawn o'r cyfle i gystadlu dros Gymru ar fy mhen fy hun y tro hwn. “Mae’n golygu llawer i fy nheulu a minnau a gobeithio y gallaf fynd drwodd i’r rownd derfynol yn Singapore yn 2024 a dod â'r wobr adref i Gymru.

“Mae’n debyg fy mod i mor barod ag y gallwn i fod oherwydd dwi newydd fod yng Nghwpan y Byd Coginio, sef fy ail gystadleuaeth fawr gyda Chymru. Fe ddysgais i lawer iawn gan hyfforddwr a rheolwr y tîm, y beirniaid ac o wylio cogyddion rhyngwladol eraill.

"Rwy'n awyddus i helpu i wneud Cymru'n un o wledydd gorau’r byd mewn cystadlaethau coginio gan fy mod i bob amser yn ymdrechu i fod gystal ag y gallaf fod.

“Rwy'n edrych ymlaeb yn fawr at chwifio’r faner eto dros Gymru gan obeithio parhau â llwyddiant a momentwm Cwpan y Byd Coginio. Ein nod yw ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Coginio 2024.”